Elizabeth Randles | |
---|---|
Ganwyd | 1 Awst 1801 Wrecsam |
Bu farw | 6 Mai 1829 Lerpwl |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | pianydd |
Roedd Elizabeth Randles (1 Awst 1800 – 6 Mai 1829), adnabyddir hefyd fel "Little Cambrian Prodigy", yn delynores a pianyddes Cymraeg. Yn blentyn rhyfeddol, fe dechreuodd hi chwarae'r piano pan oedd hi dim ond yn 16 mis oed, perfformiodd hi am y tro cyntaf cyn iddi droi'n ddwy oed. Cafodd Elizabeth ei dysgu gan ei thad oedd yn ddall, roedd ef yn organydd yn eglwys ym mhlwyf Treffynnon. Perfformiodd Elizabeth i uchelwyr lleol a arweiniodd at berfformiiad i Siôr III, brenin y Deyrnas Unedig a'i deulu Brenhinol pan roedd hi'n dair blwydd a hanner. Gobeithiodd Caroline o Brunswick, Tywysoges Cymru, y caiff ei mabwysiadu, ond gwrthododd ei thad adael hyn i ddigwydd. Er hyn, treuliodd ambell ddiwrnod yng nghartref Haf y Dywysoges, a chwaraeodd yn aml gyda Tywysoges Charlotte o Gymru. Aeth Elizabeth ar daith o'r wlad pan yr oedd hi'n blentyn, perfformiwyd gyda John Parry (Bardd Alaw). Ym 1808, dychwelwyd adref a dysgodd i chwarae'r delyn. Aeth ymlaen i dderbyn gwersi gan Friedrich Kalkbrenner, cyn symud i Lerpwl i ddysgu.
© MMXXIII Rich X Search. We shall prevail. All rights reserved. Rich X Search